![]() | |
Math | pont bwa dec, pont droed, bridge castle, pont ![]() |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Trefynwy ![]() |
Sir | Sir Fynwy |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 14 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 51.809°N 2.71996°W, 51.808973°N 2.720045°W ![]() |
Hyd | 34.8 metr ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig ![]() |
Manylion | |
Deunydd | tywodfaen ![]() |
Dynodwr Cadw | MM008 ![]() |
Pont Trefynwy (Saesneg: Monnow Bridge) yw'r unig bont yng Nghymru sydd â thŵr amddiffynnol, milwrol; fe'i codwyd oddeutu 1272 ac mae'r bont yng nghanol tref Trefynwy, Sir Fynwy yn ne-ddwyrain Cymru. Mae'r bont yn croesi Afon Mynwy, tua 2 filltir (3.2 km) o'r ffin â Lloegr.
Cyn ei chodi oddeutu 1272 credir fod yma bont bren ac yn 1988 cafwyd tystiolaeth archaeolegol o hynny.[1] Dengys dyddio carbon i'r coed a ddefnyddiwyd yn dyddio'n ôl i gyfnod rhwng 1123 a 1169.
Tywodfaen goch yw ei gwneuthuriad gyda thri bwa. Mae'n debygol mai ar ddiwedd y 13g neu ddechrau'r 14g; hynny yw ar ôl codi'r bont. Mae olion porth cullis i'w gweld, er bod y gat ei hyn wedi hen ddiflannu. Yn 1297 rhoddwyd nawdd ariannol i'r dref gan Edward I er mwyn codi waliau amddiffynnol i amddiffyn y dref rhag ymosodiadau gan y Cymry. Arferwyd codi toll ar y bobl a ddaethai dros y bont, e.e. ffermwyr a thyddynwyr yn ymweld â'r farchnad.
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search